Henry Purcell | |
---|---|
Portread o Henry Purcell gan John Closterman (tua 1695) | |
Ganwyd | 10 Medi 1659 Westminster |
Bu farw | 21 Tachwedd 1695 Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, organydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, awdur |
Adnabyddus am | Dido and Aeneas, Who can from joy refrain?, The Fairy-Queen, Hail, bright Cecilia, I attempt from Love's sickness to fly, Thou knowest, Lord, the secrets of our hearts, Abdelazer Suite |
Arddull | opera, emyn, ode |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Priod | Frances Purcell |
Plant | Edward Purcell |
Gwefan | http://www.henrypurcell.org.uk |
Cyfansoddwr baróc o Loegr oedd Henry Purcell (10 Medi 1659 – 21 Tachwedd 1695). Dywedwyd yn aml mai ef oedd un o gyfansoddwyr brodorol gorau Lloegr. Cyfunodd Purcell elfenau arddull Eidalaidd a Ffrengig, gan greu arddull neilltuol Seisnig o gerddoriaeth faróc. Ddim yn hir ar ôl i Purcell briodi, ym 1682, cafodd ei benodi'n organydd y Capel Brenhinol. Cafodd copi o’i gyfansoddiad cyntaf, Twelve Sonatas, ei gyhoeddi ym 1683. Ym 1685, ysgrifennodd Purcell ddwy o’i anthemau mwyaf enwog – "I Was Glad" a "My Heart Is Inditing".